minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Croeso i Eglwys Sant Tudno

Mae eglwys hynafol St. Tudno yn fan pererindod, heddwch a gweddi ac mae'n addoldy gweithgar o fewn Ardal Weinidogaeth Llandudno. Yn ystod yr haf cynhelir y gwasanaethau wythnosol fel arfer yn yr awyr agored, traddodiad sy'n dyddio'n ôl i o leiaf 1857. Yn ystod y gaeaf cynhelir gwasanaethau wythnosol yng ngolau cannwyll yn yr eglwys. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys Gwylnos y Pasg, sy'n dechrau cyn toriad dydd, a gwasanaeth carolau lle mae seren Nadolig Sant Tudno yn cael ei throi ymlaen.

Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â'n gwasanaethau, archwilio'r eglwys a'r fynwent neu ddysgu am Sant Tudno a'i eglwys trwy'r wefan hon.

Mae croeso mawr i blant yn St. Tudno’s. Mae'r gwasanaethau awyr agored yn ddelfrydol ar gyfer plant: mae'r arddull gwasanaeth yn hamddenol, mae yna bethau diddorol i'w gweld (adar, cychod ar y môr, efallai hyd yn oed rhai o eifr y Gogarth), gall plant iau grwydro o gwmpas ac efallai y bydd rhai hŷn yn hoffi i ganu'r gloch cyn y gwasanaeth (mae'n gloch eitha' bach). Peidiwch â phoeni os yw’r gwasanaeth y tu mewn i’r eglwys yn hytrach na’r tu allan – mae croeso i bawb a neb yn meddwl ychydig o sŵn.

Mae gwasanaeth Gwylnos y Pasg yn cychwyn cyn toriad dydd | The Easter Vigil service begins before daybreak

Mae croeso mawr i gŵn hefyd ac mae yna rai sy’n aelodau cyson o’r gynulleidfa. Does neb yn meindio os ydyn nhw'n ceisio ymuno yn yr emynau! Peidiwch â phoeni os yw’r gwasanaeth tu fewn i’r eglwys yn hytrach na thu allan – mae croeso i gŵn ddod i mewn hefyd. Os yw eich ci yn sychedig, gellir dod o hyd i bowlen o ddŵr yn y porth.

Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymweld â St. Tudno’s ac mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn ein gwasanaethau. Os na allwch ymweld yn bersonol, rydym yn gobeithio y bydd ymweld â'r wefan hon yn eich helpu i brofi rhywbeth o'r lle arbennig iawn hwn, lle mae Cristnogion wedi bod yn addoli ers dros 1400 o flynyddoedd.

Diolch i dîm o wirfoddolwyr, mae’r eglwys ar agor bob dydd o fis Ebrill i fis Hydref ac ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc o fis Tachwedd i fis Mawrth, os bydd y tywydd yn caniatáu. Gweler y dudalen Lleoliad a Mynediad i gael gwybodaeth am fynediad. Anogir ymwelwyr i lofnodi’r Llyfr Ymwelwyr ac i ysgrifennu ceisiadau gweddi mewn llyfr arall. Pan fydd yr eglwys ar gau bob dydd, dywedir gweddïau dros bawb sydd wedi gofyn a thros yr holl ymwelwyr.

Cyfeillion Eglwys St. Tudno

Mae grŵp Cyfeillion Eglwys Tudno Sant yn croesawu unrhyw un a hoffai ymuno â theulu estynedig St. Tudno. Gweler tudalen we’r Cyfeillion am ragor o fanylion.

Gweddi dros bawb sy’n ymweld ag Eglwys Sant Tudno:

Duw Dad, a arweiniodd Sant Tudno
I'r lle bendigedig a sanctaidd hwn,
Arwain ni trwy lawenydd a gofidiau bywyd,
Helpa ni i deimlo dy heddwch a'th ras.
Amen


HiPoint yw Eglwys Sant Tudno

Mae’r prosiect HistoryPoints (HiPoint) yn darparu gwybodaeth am fwy na 1000 o leoedd ledled Cymru ac mae’r wybodaeth ar gael drwy’r wefan ac ym mhob lleoliad trwy godau QR y gellir eu darllen gyda ffôn symudol. Mae cysylltiadau â HiPoints gerllaw yn galluogi ymwelwyr i gynllunio eu teithiau hanesyddol eu hunain.


Cymraeg

Welcome to St. Tudno's Church

The ancient church of St. Tudno is a place of pilgrimage, peace and prayer and is an active place of worship within Llandudno Ministry Area. During summer the weekly services are usually held in the open air, a tradition dating back to at least 1857. During winter weekly candlelit services are held in the church. Other services include the Easter Vigil, which begins before daybreak, and a carol service at which St. Tudno's Christmas star is switched on. 

We warmly invite you join our services, explore the church and churchyard or learn about St. Tudno and his church through this website. 

Children are very welcome at St. Tudno’s. The open air services are ideal for children: the service style is relaxed, there are interesting things to look at (birds, boats on the sea, maybe even some of the Great Orme goats), younger children can wander about and older ones might like to ring the bell before the service (it’s quite a small bell). Don’t worry if the service is inside the church instead of outside – everyone is welcome and no one minds a bit of noise.

St. Tudno's Christmas star is switched on at a carol service | Seren Nadolig St. Tudno yn cael ei chynnau mewn gwasanaeth carolau

Dogs are also very welcome and there are some who are regular members of the congregation. Nobody minds if they try to join in the hymns! Don’t worry if the service is inside the church instead of outside – dogs are welcome to come in too. If your dog is thirsty, a bowl of water can be found in the porch.

We hope that you will be able to visit St. Tudno’s and a warm welcome awaits you at our services. If you are unable to visit in person, we hope that visiting this web site will help you to experience something of this very special place, where Christians have been worshiping for more than 1400 years.

Thanks to a team of volunteers, the church is open every day from April till October and on Saturdays, Sundays and bank holidays from November till March, weather permitting. Please see the Location and Access page for information on access. Visitors are encouraged to sign the Visitors’ Book and to write prayer requests in another book. When the church is closed each day, prayers are said for all who have asked and for all visitors.

The Friends of St. Tudno’s Church 

The Friends of St. Tudno’s Church group welcomes anyone who would like to join St. Tudno’s extended family. Please see the Friends’ web page for further details.

A prayer for all who visit St. Tudno’s Church:

Father God, who led St. Tudno
To this blessed and holy place,
Lead us through life’s joys and sorrows,
Help us feel your peace and grace.
Amen


St. Tudno's Church is a HiPoint

The HistoryPoints (HiPoint) project provides information on more than 1000 places across Wales and the information is available via the website and at each location via QR codes which can be read with a mobile phone. Links to nearby HiPoints allow visitors to plan their own historic tours.